Llety

Darperir llety hunan-arlwyol yn Neuaddau Preswyl y Brifysgol yn agos i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar brif gampws y brifysgol. Mae pob ty ym "mhentref y myfyrwyr" yn cynnwys hyd at chwech ystafell wely sengl, dwy ystafell ymolchi a chegin. Mae'n well gan rai ddarparu eu prydau eu hunain tra bod eraill yn mynychu'r caffis, bwytai a'r barrau niferus yn y dref, neu yn y Ganolfan ei hun.

Goruchwyliaeth o dan 18 oed
Rhoddir myfyrwyr o oedran tebyg mewn llety efo'i gilydd gyda goruchwyliaeth addas (arweinir ein tîm gofal bugeiliol gan staff profiadol a chymwysedig). Gofynnir i rieni myfyrwyr o dan 18 oed i arwyddo i gadarnhau eu bod yn derbyn rheolau a rheoliadau Ysgol Haf MusicFest Aberystwyth.

cost:
oedolion £360
Myfyrwr amser llawn £260

llety hunan-arlwyol £115


Mae rhywfaint o gymorth ariannol ar gael i fyfyrwyr ond rhoddir blaenoriaeth i'r sawl sy'n ymgeisio'n fuan.

Rhagor o fanylion ar gael gan Gydlynydd MusicFest
Sophie Bennett sob@aber.ac.uk
Tel +44 (0) 1970 622882

pentre jane morgan