Arfordir ysblennydd Bae Ceredigion yng Ngorllewin Cymru yw’r cefndir gwych i’r wythnos ysbrydoledig hon o Fyw gyda Cherddoriaeth. Mae MusicFest Aberystwyth yn gyfuniad hudolus o Wyl Gerdd ac Ysgol Haf; o brofi a dysgu; o berfformio a gwerthfawrogi. Mae cynnwys y gynulleidfa, y myfyriwr a’r artist yn eu tro yn creu awyrgylch cymunedol unigryw yr Wyl – mae’n ‘adfywiol, yn rhoi boddhad ac yn gwbl ysbrydoledig’.
Mae’r Ysgol Haf yn unigryw gan ei bod yn cynnig cyfleoedd ac hyfforddiant disgybledig a strwythuredig ym maes cerddoriaeth siambr, yn ogystal a phrofiadau dysgu gwych trwy’r rhaglen o gyngherddau a gyflwynir gan y tiwtoriaid eu hunain (fel artistiaid preswyl maent i gyd yn berfformwyr blaenllaw yn ogystal ag athrawon dawnus). Yn seiliedig ar y syniad o ‘ddysgu trwy wrando, ymarfer a pherfformio’ trefnir cyrsiau gyda pedwarawd llinynnol, clarinet, sacsoffon, composition, brass, percussion a piano. Trwy gydol yr wythnos bydd yr artistiaid preswyl yn hyfforddi’r grwpiau, yn arwain gweithdai, yn cyflwyno dosbarthiadau meistr ac yn perfformio yn y cyngherddau. Mae’r myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i berfformio’n gyhoeddus ac i fynychu yn rhad ac am ddim holl weithgareddau’r wyl. Am wythnos gyfan mae pawb yn byw, yn anadlu ac yn breuddwydio cerddoriaeth!
Mae’r cyngherddau dyddiol, amser cinio a min nos, yn ogystal a’r perfformiadau gan y myfyrwyr yn y cyntedd a’r cyngherddau o safon uchel ar ddiwedd yr wythnos, yn ein hatgoffa sut mae gwrando ar gerddoriaeth fyw dda yn medru adnewyddu’r enaid a’r corff.
Cyrsiau
llais / unawdydd llinynnol / pedwarawd llinynnol / clarinet / cyfansoddi / sacsoffon / wythawd chwyth / arweinyddiaeth / chamber / mixed_chamber / seicoleg ymarferol / composing_film_tv
Mae'r Ysgol Haf yn unigryw gan ei bod yn cynnig cyfleoedd ac hyfforddiant disgybledig a strwythuredig ym maes cerddoriaeth siambr, yn ogystal a phrofiadau dysgu gwych trwy'r rhaglen o gyngherddau a gyflwynir gan y tiwtoriaid eu hunain (fel artistiaid preswyl maent i gyd yn berfformwyr blaenllaw yn ogystal ag athrawon dawnus).